SL(6)126 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol[1] yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i bersonau sy’n cyrraedd Cymru archebu a chymryd profion coronafeirws ac ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn
diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol drwy wneud y
newidiadau a ganlyn:
· Dileu’r gofyniad ar gyfer profion cyn ymadael ar gyfer teithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phawb o dan 18 mlwydd oed;
· Dileu’r gofyniad i ynysu hyd nes y ceir canlyniad negatif mewn prawf diwrnod 2 ar ôl cyrraedd ar gyfer teithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phawb o dan 18 mlwydd oed;
· Diwygio’r gofyniad i brofion ar ôl cyrraedd fod yn rhai PCR er mwyn caniatáu i
brofion LFD gael eu defnyddio fel dewis amgen ar gyfer personau sydd wedi’u
brechu’n llawn a’r rhai o dan 18 oed, a darparu bod rhaid i unrhyw un sy’n
profi’n bositif mewn prawf LFD ynysu a chymryd prawf PCR dilynol;
· Ychwanegu 16 o wledydd at y rhestr o raglenni brechu cydnabyddedig;
· Eithrio plant o dan 5 mlwydd oed o ofynion profi ac ynysu;
· Gwneud diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd[2] yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Gwneir newidiadau canlyniadol i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn gyson o ran y derminoleg a ddefnyddir.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliad 13(2) yn mewnosod paragraff 1ZCA newydd yn Atodlen 1C i'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae paragraff 1ZCA(1)(h) yn darparu:
“(h) os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno -
(i) paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;
(ii) paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;
(iii) paragraff 2D(2) a (4).” [ychwanegwyd
pwyslais]
Cafodd paragraff 2D o Atodlen 1C ei ddirymu gan reoliad 13(5) o
Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a
Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3)
2021.[3]
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn negyddol gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 6 Ionawr 2022.
Yn benodol, rydym yn nodi'r hyn y mae'r llythyr yn ei ddweud ynghylch pam mae'r rheoliadau hyn yn torri'r rheol 21 diwrnod:
“Yn unol ag adrannau 4(1) ac 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, rwy’n eich hysbysu nad yw’r offeryn statudol hwn wedi cadw at y confensiwn 21 diwrnod, ac y bydd rhai darpariaethau’n dod i rym cyn y gellir gosod yr offeryn. Bydd y newidiadau i brofion cyn ymadael, profion ar ôl cyrraedd a gofynion ynysu, a’r diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd, yn dod i rym o 04:00 ddydd Gwener 7 Ionawr ymlaen; bydd newidiadau pellach i brofion ar ôl cyrraedd yn dod i rym o 04:00 ddydd Sul 9 Ionawr ymlaen a bydd ychwanegu 16 o wledydd at y rhestr o raglenni brechu cydnabyddedig yn dod i rym o 04:00 ddydd Llun 10 Ionawr ymlaen.
... Drwy beidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod gall y Rheoliadau hyn ddod i rym ar y cyfle cynharaf a pharhau â’r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol; oherwydd y dystiolaeth newidiol ar y risg mewn perthynas â’r afiechyd hwn ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gam y gellir ei gyfiawnhau yn yr achos hwn.”
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Nid yw’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn newid y ffaith bod y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir eu cyfiawnhau at ddiben atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir ymyriad ar y sail ei fod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur.”
Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Oherwydd y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angenam ymateb iechyd y cyhoedd brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddusmewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.”
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae'r Pwyllgor yn nodi nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:
“Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd yr angen i’w rhoi ar waith ar frys er mwyn ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwynt adrodd technegol.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2022 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.